Medi 07 – Enillwyr Cymru yn derbyn eu gwobrau
Ymunodd Chris Collins, garddwr Blue Peter, ag athrawon a disgyblion mewn ysgol fuddugol ar 18 Medi 2007 er mwyn cyflwyno eu gwobrau iddynt.
Enillodd Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru yr Archddiacon John Lewis gystadleuaeth ‘Annog eich ysgol i dyfu’ y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol. Cafodd gardd ddiddorol yr ysgol hon ei dylunio ar ffurf malwen, ac mae’n cynnwys blodau, ffrwythau a llysiau. Yn ogystal â chael cyngor gan Chris, bu i’r ysgol ennill gwerth £500 o adnoddau garddio ynghyd â chefnogaeth gan arddwriaethwyr hyfforddedig am bum niwrnod. Byddwn yn cadw llygad ar eu cynnydd â diddordeb.